
[English below | Saesneg isod]
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynghori ein staff ar waith y Rhwydwaith yng Nghymru?
Y Rhwydwaith yng Nghymru
Mae 83 aelod yn rhan o’r Rhwydwaith ar hyn o bryd yng Nghymru, y mae 65 ohonynt yn sefydliadau treftadaeth nid-er-elw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru, mae’r Rhwydwaith wedi:
- Rhedeg 4 digwyddiad yn benodol i Gymru, 3 ohonynt wyneb-i-wyneb
- Ychwanegu 5 darn o gyngor sy’n benodol i Gymru i’n Pecyn Offer (4 wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg)
- Datrys 15 achos gan aelodau am gefnogaeth
- Rhannu 31 darn o newyddion neu ddigwyddiadau i aelodau sy’n berthnasol i Gymru yn ein cylchlythyr
- Cyflogi Swyddog Datblygu ac Allgymorth rhan amser yng Nghymru
Gyda Phwyllgor Cenedlaethol newydd i Gymru, gobeithiwn y gellir cefnogi’r gweithgaredd hwn ymhellach er mwyn ei dyfu.
Rôl y Pwyllgor Cenedlaethol
Mae Pwyllgorau Cenedlaethol yn gyrff cynghori i’r bwrdd a’r staff. Mae rôl y pwyllgorau cenedlaethol yn cynnwys:
- Datblygu cynllun ar gyfer gwaith y Rhwydwaith yn eu gwlad.
- Cynghori’r bwrdd ynglŷn â sut mae modd cyflawni amcanion y Rhwydwaith yn eu gwlad
- Cynghori’r uwch-dîm rheoli ynglŷn â chynnwys gweithredu eu gwlad a sut dylid cyflawni gwaith y Rhwydwaith
- Helpu i hyrwyddo trafodaeth ynglŷn â pholisïau Llywodraethau datganoledig (a pholisïau ac ymarferion cyrff a phartneriaethau cenedlaethol eraill) i helpu’r Rhwydwaith i benderfynu ar ei safbwynt ar faterion polisïau a’r graddau y mae’n dymuno ymgysylltu â nhw neu gymryd rhan mewn rhwydweithiau a phartneriaethau.
- Cefnogi’r bwrdd wrth ddewis cyfarwyddwr cynrychioliadol ar gyfer eu gwlad
- Arwain a chefnogi gwaith y cyfarwyddwr cynrychioliadol ar y bwrdd
- Arwain a chefnogi unrhyw staff sy’n gweithio’n benodol dros y wlad honno (e.e. Swyddogion Datblygu ac Allgymorth a Hyfforddeion Treftadaeth) a derbyn adroddiadau ganddynt.
- Ymgymryd â thasgau fel gwirfoddolwyr i gefnogi gwaith y Rhwydwaith, megis gwneud cysylltiadau, siarad ar ran y Rhwydwaith, cynrychioli’r Rhwydwaith mewn fforymau a rhwydweithiau.
Ymrwymiad
Bydd aelodaeth pwyllgorau cenedlaethol am dymor o dair blynedd, y gellir ei ymestyn am gyfnod pellach o dair blynedd. Mewn achosion eithriadol, efallai bydd modd ymestyn y cyfnod hwn am hyd at dair blynedd (er enghraifft, er mwyn caniatáu i gyfarwyddwr cynrychioliadol gwblhau eu cyfnod ar y Bwrdd).
Bydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru yn cyfarfod bob chwarter, ar-lein yn gyffredinol ond gyda chyfle am un cyfarfod wyneb-i-wyneb y flwyddyn (efallai trwy ei alinio â digwyddiad Rhwydweithio wyneb-i-wyneb). Bydd un cyfarfod y flwyddyn, fel arfer ym mis Mawrth, Ebrill neu Fai yn gyfarfod adolygiad blynyddol, yn edrych yn ôl ar gyflawniadau’r flwyddyn (ariannol) flaenorol a chynllunio ar gyfer yr un sydd i ddod.
Pam ein bod yn recriwtio
Mae Pwyllgor Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar person sy’n aelodau, cyllidwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y maes. Mae ein polisi Pwyllgorau Cenedlaethol sydd newydd ei gadarnhau yn nodi telerau ar gyfer pwyllgorau cenedlaethol y byddwn yn cwrdd â nhw drwy recriwtio i’r pwyllgor presennol.
Ein dull o recriwtio i’r Pwyllgor Cenedlaethol
Rydym yn ceisio sicrhau cymysgedd ymhlith aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol, rhai o fewn aelodaeth y Rhwydwaith a rhai sy’n gallu dod â safbwynt newydd o rannau eraill yn y sectorau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus. Rydym yn gwerthfawrogi aelodau pwyllgor sy’n gallu cyfrannu’n greadigol i drafodaethau ynglŷn ag uchelgeisiau’r Rhwydwaith a’r heriau y mae’n eu hwynebu.
Fel llawer o sefydliadau treftadaeth, rydym yn wynebu heriau yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd a’r staff wedi ymrwymo i newidiadau ystyrlon ac i ysbrydoli newid ymhlith ein haelodau. Rydym am amrywio’r pwyllgor, fel ei fod yn cynrychioli’r holl gymunedau yng Nghymru yn briodol.
Dylai aelodaeth pwyllgorau cenedlaethol gynnwys:
- Cynrychiolaeth o aelodau o wahanol faint, math a dosbarth
- Cydbwysedd rhwng y rhywiau
- Cynrychiolaeth o gyllidwyr mawr
- Pobl o wahanol ardaloedd daearyddol o’r wlad
- O leiaf un person ifanc (dan 30)
Recriwtio a Sut i ymgeisio
Bydd recriwtio agored, anffurfiol ar gyfer aelodau pwyllgor cenedlaethol Cymru yn dechrau yn haf 2025 a bydd yn rhedeg nes daw teimlad bod pwyllgor cytbwys ac ymgysylltiedig ar gyfer Cymru wedi’i ffurfio.
I ymgeisio i fod ar y pwyllgor, cwblhewch ein ffurflen gais fer.
Yna, efallai y byddwn yn eich holi i weld pryd fyddwch ar gael am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r rôl, ac yna cewch wahoddiad i ddod i gyfarfod pwyllgor nesaf Cymru ym mis Hydref 2025. Yn dilyn y cyfarfod pwyllgor, byddwn yn gofyn i chi a’r pwyllgor am adborth a chyn belled na fydd unrhyw faterion uniongyrchol neu wrthdaro buddiannau, cewch eich gwahodd i ymuno â’r pwyllgor, gyda’ch tymor yn dechrau o gyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref 2025.
Nodyn: os byddwn yn derbyn nifer uchel o geisiadau i ymuno â Phwyllgor Cenedlaethol Cymru, efallai y bydd angen adolygu’r broses hon, a byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am hyn cyn gynted â phosibl.
Os oes gennych ymholiadau am y rôl, anfonwch e-bost at ein Swyddog Datblygu ac Allgymorth ar gyfer Cymru: izabella@heritagenetwork.org.uk
Are you interested in advising our staff on the work of the Network in Wales?
The Network in Wales
The Network currently has 83 members in Wales, 65 of which are not-for-profit heritage organisations. In the last year in Wales, the Network has:
- Run 4 Wales specific-events, 3 in-person
- Added 5 pieces of Wales-specific advice to our Toolkit (4 translated into Welsh)
- Resolved 15 member cases for support
- Shared 31 Wales pieces of news or member events in our newsletter
- Employed a part-time Development and Outreach officer for Wales
With a refreshed National Committee for Wales, we hope that this activity can be further supported to grow.
The role of the National Committee
National committees are advisory bodies to the board and staff. The role of the national committees consists of:
- Developing a plan for the Network’s work within their nation.
- Advising the board regarding how the objectives of the Network can be achieved in their nation
- Advising senior management regarding the operating context in their nation and how the work of the Network should be delivered
- Helping facilitate discussion regarding the policies of devolved Governments (and the policies and practices of other national bodies and partnerships) to help the Network decide its position on policy issues and the extent to which it wishes to engage with them or participate in networks and partnerships.
- Supporting the board in selection of a representative director for their nation
- Guiding and supporting the work of the representative director on the board
- Guiding and supporting any staff dedicated to that nation (e.g. Development and Outreach Officers and Heritage Trainees) and receiving reports from them.
- Undertaking tasks as volunteers to support the work of the Network, such as making contacts, speaking on behalf of the Network, representing the Network at forums and networks.
Commitment
Membership of national committees will be for a term of three years, extendable for a further period of three years. Exceptionally this might be extended for up to three years (for example to allow a representative director to complete their period on the Board).
The National Committee for Wales will meet quarterly, generally online but with opportunities sought for one in-person meeting per year (perhaps by aligning it with an in-person Network event). One meeting a year, usually in March, April or May, will be an annual review meeting, looking back at achievements of the previous (financial) year and planning for the one ahead.
Why we are recruiting
The National Committee for Wales currently consists of four people drawn from members, funders and other professionals working in the field. Our newly ratified National Committees policy sets out terms for national committees which we will meet through recruitment to the current committee.
Our approach to National Committee recruitment
We try to ensure a mix of National Committee members, some from within the Network’s membership and some who can bring a fresh perspective from elsewhere in the private, voluntary and public sectors. We value committee members who can make a creative contribution into discussions around the ambitions of the Network and the challenges it faces.
Like many heritage organisations we face challenges around diversity and inclusion. However, the Board and staff team are committed to meaningful change and to inspire change in our members. We want to diversify the committee, so it properly represents all of the communities in Wales
The membership of national committees should include:
- Representatives of different sizes, types and classes of member
- A gender balance
- Representatives of major funders
- People from different geographical areas of the nation
- At least one young person (under 30)
Recruitment & How to apply
Open, informal recruitment will begin for Wales national committee members in summer 2025 and will run until it is felt that a balanced and engaged committee for Wales has been formed.
To apply to be on the committee, please complete our short application form below.
You may then be asked for your availability for an informal chat about the role, followed by an invitation to attend the next Wales committee meeting in October 2025. Following the committee meeting, you and the committee will be asked for feedback and so long as there are no immediate issues or conflicts of interest you will be invited to join the committee, with your term beginning from the October 2025 Committee meeting.
Note: if we receive a high number of applications to join the National Committee for Wales, this process may need to be revised, which we will inform applicants of at the earliest possible time.