
Press release available in Welsh below.
Cyfarthfa Castle in Merthyr Tydfil welcomed over 59,000 visitors in 2025, an increase of 75% on the previous year. The huge growth in attendance follows the year-long Cyfarthfa200 campaign, which celebrated the historic castle’s bicentenary with over 200 events and activities.
2025 was an exciting dual celebration for Cyfarthfa as Their Majesties The King and Queen also visited Cyfarthfa Castle to meet members of the local community, businesses and well-known Welsh cultural figures, to celebrate His Majesty’s 77th birthday. During the year it was also announced that the iconic Cyfarthfa Heritage Area would receive £4.5 million to undertake urgent conservation works. Welsh Government – through its historic environment service Cadw – and Merthyr Tydfil County Borough Council are each contributing £2.25 million to address the deterioration to the oldest part of Cyfarthfa Castle as well as protecting Pont-y-Cafnau bridge.
To coincide with the bicentenary of Cyfarthfa Castle, BBC Cymru Wales broadcast a collection of programmes celebrating the history, the culture, and the people of Merthyr, which was accessed by 1.7million people.
An estimated 12,000 people attended Cyfarthfa200 events, which ranged from creative workshops and community exhibitions to outdoor trails and historic talks. Led by the Cyfarthfa Foundation and Merthyr Tydfil County Borough Council, the programme was brought to life by the Cyfarthfa Museum and Art Gallery team, the Foundation and a diverse range of local organisations and individuals across Cyfarthfa Park, the local community and the wider borough.
Highlights included the Cyfarthfa Birthday weekend celebrations at the castle with an incredible array of activities, including an artisan market, storytelling sessions, bug trails, a Victorian portrait studio, free access to the museum and art gallery and a programme of lectures focussed on the castle’s impressive heritage.
The Cyfarthfa200 campaign was supported by UK Government’s Shared Prosperity Fund, via Merthyr Tydfil County Borough Council.
For more details please contact Gemma Durham, Director of Brand and Engagement at The Cyfarthfa Foundation on gdurham@cyfarthfafoundation.wales or call 07988 361 688.
Castell Cyfarthfa yn Gweld Cynnydd mewn Ymwelwyr yn Dilyn Dathliadau’r Deucanmlwyddiant
Croesawodd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful dros 59,000 o ymwelwyr yn 2025, cynnydd o 75% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn dilyn ymgyrch Cyfarthfa200, dros gyfnod o flwyddyn, i ddathlu deucanmlwyddiant y castell hanesyddol gyda dros 200 o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Roedd 2025 yn ddathliad deuol cyffrous i Gyfarthfa wrth i’w Fawrhydi y Brenin a’r Frenhines ymweld â Chastell Cyfarthfa i gwrdd ag aelodau o’r gymuned leol, busnesau a phobl diwylliannol adnabyddus Cymru, i ddathlu pen-blwydd Ei Fawrhydi yn 77 oed. Yn ystod y flwyddyn cyhoeddwyd hefyd y byddai Ardal Dreftadaeth eiconig Cyfarthfa yn derbyn £4.5 miliwn i ymgymryd â gwaith cadwraeth brys. Mae Llywodraeth Cymru – drwy ei gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cadw – a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cyfrannu £2.25 miliwn yr un i fynd i’r afael â’r dirywiad i ran hynaf Castell Cyfarthfa yn ogystal â diogelu Pont-y-Cafnau.
I gyd-fynd â deucanmlwyddiant Castell Cyfarthfa, darlledodd BBC Cymru Wales gasgliad o raglenni yn dathlu hanes, diwylliant a phobl Merthyr, gan gyrraedd 1.7 miliwn o bobl.
Amcangyfrifir bod tua 12,000 o bobl wedi bod i ddigwyddiadau Cyfarthfa200, a oedd yn amrywio o weithdai creadigol ac arddangosfeydd cymunedol i lwybrau awyr agored a sgyrsiau hanesyddol. Dan arweiniad Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gwireddwyd y rhaglen gan dîm Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa, y Sefydliad, ac ystod amrywiol o sefydliadau ac unigolion lleol ar draws Parc Cyfarthfa, y gymuned leol a’r fwrdeistref ehangach.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd dathliadau penwythnos Pen-blwydd Cyfarthfa yn y castell gydag amrywiaeth anhygoel o weithgareddau, gan gynnwys marchnad grefftwyr, sesiynau adrodd straeon, llwybrau chwilod, stiwdio bortreadau o Oes Fictoria, mynediad am ddim i’r amgueddfa a’r oriel gelf a rhaglen o ddarlithoedd yn canolbwyntio ar dreftadaeth drawiadol y castell.
Cefnogwyd ymgyrch Cyfarthfa200 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Gemma Durham, Cyfarwyddwr Brand ac Ymgysylltu Sefydliad Cyfarthfa ar gdurham@cyfarthfafoundation.wales neu ffoniwch 07988 361 688.